Pobl Ifanc Capel Clapham
Mae ‘na Ysgol Sul brwdfrydig yng nghapel Clapham – rydym ni’n ffodus iawn i groesawu ein pobl ifanc – y P.I.C.Cs (Pobl Ifanc Capel Clapham) – pob dydd Sul yn ystod yr oedfaoedd. Mae ein ieuenctid ni yn dod o sawl lleoliad yn Llundain i gwrdd er mwyn dysgu am Dduw a chael hwyl a joio wrth wneud hynny, mor belled â phosib, trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod ysgol Sul rydym yn canu, chwarae, perfformio, gwneud gwaith crefft, chwarae pêl droed, tenis, cyrsiau rhwystr a hyd yn oed cystadlu ar ‘Mario Kart’ ar ein Switch Nintendo! Ein bwriad yw rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc ddatblygu mewn amgylchfyd diogel, lle maent yn gallu creu rhwydwaith o ffrindiau dwyieithog o gwmpas Llundain.
Dewch i ymuno â ni!