Dreigiau Bach

Mae Dreigiau Bach yn glwb Cymraeg i fabanod 0-5 mlwydd oed sy’n cael ei gynnal yn ystod y tymor ysgol, yn festri Capel Cymraeg Clapham pob bore Llun rhwng 10:30 a 12:30. Rhoddir cyfle i fabanod a phlant bach i chwarae, canu, darllen neu wrando ar storïau, gwneyd gwaith crefft a chymdeithasu  trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r obaith o greu rhwydwaith i deuluoedd i sicrhau dwyieithrwydd i’w plant ac er mwyn magu hyder i gario ymlaen gyda mwynhau’r sgwrsio ddwyieithol adref yn yr un modd. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, ddim yn siarad gair neu yn gwbl rhigl, mae croeso mawr i chi yng ngrwp Dreigiau Bach!

Cysylltwch ag arweinydd y grŵp, Miriam Watling, am fwy o fanylion ar 07375556867 neu dewch i gael clonc ‘da ni yn y festri un bore!

Gwybodaeth

Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl yn Dreigiau Bach am 10.30 o’r gloch bob bore Llun yn ystod y tymor.

dreigiaubach@gmail.com