Capel Cymraeg Clapham, 30 Beauchamp Road, Clampham, SW11 1PQ

Gweinidog: Y Parch. Richard Brunt. BA, BD, MPhil.
Gorsafoedd agosaf: Clapham Junction (trên); Clapham South neu Clapham Common (Tiwb: Northern Line).

Cymru yn y Brifddinas

Amdanom

Rydym yn cynnal gwasanaeth dwyieithiog pob dydd Sul am 11 o’r gloch y bore, ag eithrio mis Awst. Mae ein gweinidog, Y Parch. Richard Brunt yn ein harwain pob Sul cyntaf y mis ac rydym yn ffodus i groesawu pregethwyr gwâdd ar y Suliau eraill. Ambell waith, mae aelod o’n cwrdd yn trefnu gwasanaeth arbennig e.e. ein gwasanaeth Pobl Ifanc pob mis Ionawr o dan arweiniad Mrs Eleanor Thomas, lle cawn addolu gyda darlleniadau, perfformiadau cerddorol gan ein haelodau – proffesiynol ac amatur, a pherfformiadau eraill gan rhai o’n pobl ifanc, talentog. Rydym hefyd yn falch i gynnwys emynau modern yn ein gwasanaethau, ac yn cyfeilio’r rhain ar biano, organ a drymiau!

Amdanom

Darllenwch am hanes Eglwys Clapham.

Ysgol Sul

Pobl Ifanc Capel Clapham, pob dydd Sul yn ystod yr oedfaoedd.

Dreigiau Bach

Cylch chwarae Cymraeg i blant hyd at 4 oed.

Pobl Ifanc Capel Clapham

Mae ‘na Ysgol Sul brwdfrydig yng nghapel Clapham – rydym ni’n ffodus iawn i groesawu ein pobl ifanc – y P.I.C.Cs (Pobl Ifanc Capel Clapham) – pob dydd Sul yn ystod yr oedfaoedd. Mae ein ieuenctid ni yn dod o sawl lleoliad yn Llundain i gwrdd er mwyn dysgu am Dduw a chael hwyl a joio wrth wneud hynny, mor belled â phosib, trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod ysgol Sul rydym yn canu, chwarae, perfformio, gwneud gwaith crefft, chwarae pêl droed, tenis, cyrsiau rhwystr a hyd yn oed cystadlu ar ‘Mario Kart’ ar ein Switch Nintendo! Ein bwriad yw rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc ddatblygu mewn amgylchfyd diogel, lle maent yn gallu creu rhwydwaith o ffrindiau dwyieithog o gwmpas Llundain.

Dreigiau Bach Llundain

Mae Dreigiau Bach Llundain yn gylch chwarae Cymraeg i blant sy’n cyfarfod yn rheolaidd yn y festri yn ystod y tymor. Mae’n grŵp iaith Gymraeg ar gyfer plant o enedigaeth hyd at bedair oed. Mae Dreigiau Bach Llundain wedi cofrestru gyda Mudiad Meithrin ac yn dilyn canllawiau eu cylchoedd chwarae Chi a Fi. Mae’r sesiynau’n cynnig cyfle i fabanod a phlant chwarae, gwrando ar straeon, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, canu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Capel Cymraeg Clapham

Gwasanaethau: 11 o’r gloch y.b. pob Sul ac eithrio Suliau mis Awst.

Gweinidog: Y Parch. Richard Brunt. BA, BD, MPhil. (rwbrunt@gmail.com)

Ysgrifennydd: Dr Hywel Thomas (eleanorandhywel@hotmail.com)

Cyfeiriad: 30 Beauchamp Road, Clapham, SW11 1PQ

Gorsafoedd agosaf: Clapham Junction (trên); Clapham South neu Clapham Common (Tiwb: Northern Line).