125th Birthday

DATHLU PENBLWYDD 125 O FLYNYDDOEDD ERS SEFYDLU CLAPHAM

Cynhaliwyd gwsanaeth teuluol arbennig ar Fore Sul 7fed Tachwedd i ddathlu sefydliad yr Achos yn y Junction yn 1896. Roedd y cyfarfod o dan lywyddiaeth y Parch Richard Brunt.  Adraddododd anerchiad amserol a phwrpasol. Cyflwynwyd y rhannau arweiniol gan Miriam a Marcus Watling, Lisa Kenny ac Alastair Young. I ddechrau’r gwasanaeth, canwyd yr emyn “Wele deulu D’eglwys lesu” o waith y Parch. Geoffrey Davies. Yr organydd oedd Glyn Morris a’r cyfeilydd, Peter Greaney.

Cawsom gyflwyniad hyfryd ar ffurf drama gan blant yr Ysgol Sul yn sôn am yr ymgyrch gan yr aelodau yn y blynyddoedd cynnar, i godi arian i leihau’r ddyled sylweddol yn dilyn adeiladu’r capel. Cynhaliwyd basar anferth ar y cyd â chapeli eraill yn Caxton Hal dan nawdd Margaret Lloyd George a oedd yn aelod yma. Diolch i’r plant, athrawon a rhieni o dan arweiniad Moyra Greaney am hyn.

Yn ei anerchiad, cafwyd crynodeb gan Hywel Thomas o hanes sefydlu ac adeilad y capel rhwng 1895 a 1897, a’r cynnydd yn y cyfnod cyn  Rhyfel 1914-1918, y cyfnod rhwng y ddau Rhyfel a’r cyfnod o 38 mlynedd o dan gweinidogaeth Y Parch W J Jones. Yna fe ganolbwyntiodd ar y 60 mlynedd o 1960 ymlaen. Buom yn ffodus fel Eglwys o gael gwasanaeth cyfres o weinidogion galluog, gofalus a dawnus, sef Alun Richards, O J Evans, Geoffrey Davies, Anthony Williams, Dafydd Owen ac yn awr ers 2019, Richard Brunt. O dan arweiniad Dafydd Owen, bu ail drefniant ymysg eglwysi Henaduriaeth Llundain i ffurfio Gweinidogaeth ar y cyd ymysg y capeli, a furfio Eglwys y Drindod yng Ngogledd yDdinas, ac Eglwys Unedig De Llundain yn cynnwys Clapham. Lewisham a Sutton. Yn drist caewyd Lewisham, ond o ganlyniad I ffurfio EUDL, bu’n bosibl i Clapham a Sutton elwa o’r arian o werthu adeiladau Lewisham i wneud gwelliannau angerheidiol fel moderneiddio festri Clapham a gosod lifft I mewn yn 2016. Canlyniad arall o’r adrefniant yw fod Eglwysi’r Cylch, gyda help yr Henaduriaeth wedi sicrhau yn ddiweddar,  apwyntiad Gweithiwr i gefnogi ein Gweinidog. Hyfryd oedd croesawu Miriam Watling I’r cyfarfod.

Ond nid oedd popeth yn esmwyth. Fel y gweddill o’r wlad, bu rhaid I’r capel ymateb i’r Covid trwy gau yr adeilad am 14 o fisoedd. Ond yn ystod y cyfnod yma bu’n bosibl cadw mewn cysylltiad â’n gilydd trwy gyfrwng Zoom. Cynhaliwyd Gwasanaethau crefyddol a chymdeithasol Cylch Liundain o dan arweiniad Richard a Joanna Thomas, ac yma yn Clapham o dan arweiniad Moyra Greaney a gyda chymorth y rhieni a’r athrawon bu’n bosibl i’r Ysgol Sul gyfarfod yn rheolaidd trwy gyfrwng Zoom. Ond cawsom golledion yn ystod y pandemig gyda marwolaethau Anne Whitman, Elian Evans a Trevor Jennett, a hefyd collasom Bryan Howells, cyn-flaenor a thrysorydd. Pwysleisodd Hywel Thomas y bu Clapham yn ffodus iawn dros y blynyddoedd yn y dewis o Flaenoriaid a swyddogion.

Mae tair agwedd I fywyd eglwys, sef y Bywyd a’r Gwasanaethau Crefyddol; y Bywyd Cymdeithasol, a’r Bywyd Cerddorol a Chaniadaeth y Cysegr. Soniodd Hywel yn fyr am yr agweddau yma ym mywyd Clapham:

Y BYWYD YSBRYDOL . Erbyn hyn, rydym yn cynnal oedfa ar fore Sul yn unig ac yn ddiolchgar I Richard a phregethwyr o Lundain ac o Gymru am eu gwasananaeth. Mae’r Ysgol Sul yn ffynnu o dan arweiniad Lisa Kenny, gyda chymorth y rhieni a’r athrawon. Rydym yn cynnal gwasanaethau arbennig yn rheolaidd gan gynnwys Gwasanaeth y Bobl Ifanc o dan arweiniad Eleanor, Gwasanaeth Gwyl Dewi, Gwasanaeth Gymanfa’r Pasg, Y Cynhaeaf, ar Adfent a’r Nadolig.

Y BYWYD CYMDEITHASOL Dros y blynydoedd cawsom rhaglenni llawn o gyfarfodydd y Gymdeithas gyda’r Uchafbwynt ym Mis Mawrth sef y cinio i ddathlu Gŵyl Dewi. Am flynyddoedd bu gwibdeithiau i  lan y mor a thramor i Oberammergau, yr Eidal a Ffrainc.

Diolch I Beti a Lorrie Potts ac i Glyndwr Griffiths am drefnu y rhain. Yn y blynyddoedd diweddaraf cynhaliwyd picnic yn y parciau  lleol a hefyd trefnwyd parti tê yn ngerddi Ann a Trevor Jennett, Iris a Bryan Howells a Jennifer ac Emrys Owen.

Y BYWYD CERDDOROL

Bu Clapham yn ffodus dros y blynyddoedd gyda’i organyddion. Am 46 o flynyddoedd bu Mrs Eluned Idris Jones wrth y llyw, ac yn y tîm yn helpu bu Betty Potts. Huw Edwards, Ann Jennett, Anne Whitman, lestyn Roberts, leuan Jones a Christopher Enson. Ar ôl hynny bu Ann Jennett yn trefnu’r rota, ac erbyn hyn mae gennym Peter Greaney, Glyn Morris, Simon Heeley a lestyn Roberts fel organyddion. Bu Ellis Jones yn Arweinydd y côr am flynyddoedd ac yn awr mae Moyra yn dilyn yn ei Iwybrau. Ac wrth gwrs mae angen unawdwyr, a bu sawl aelod yn ein llonni. Cofiwn yn arbennig am Jack Davies a’i lals bendigedig, a cawsom gyfle yn ystod y cyfarfod I glywed ei lais ar record a wnaeth ar Radio Cymru pan yn ei nawdegau. I ddilyn, cafwyd y pleser o wrando ar Gôr Meibion Ciwb Rygbi Cymry Liundan yn canu emnau Llef a Calon Lân.

I orffen, gofynnodd Hywel i’r gynulleidfa i gyd-adrodd geiriau ysbrydoledig emyn Peter M Thomas ( Rhif 152 Caneuon Ffydd) a oedd yn crynhoi naws y cyfarfod:

“Cerddwn ymlaen i yfory, chwifiwn faner yn y gwynt,

Seiniwn glod am a gafwyd, am fendithion dyddiau gynt;

Am y rhai tu yma’n sefyll ac yn brwydro dros y gwir

Seiniwn glod a cherddwn ymlaen.”

Mae yn destun diolch i’r gweinidogion, swyddogion, blaenoriaid, aelodau a ffrindiau am eu teyrngarwch i’r Achos a cadw’r fflam ar gyn yn Clapham dros y blynyddoedd.